Home
Grŵp Tylluanod Gwyn Maldwyn
 
Gwirfoddolwyr yw’r grŵp hwn sy’n gweithio dros gadwraeth Tylluanod Gwyn yn Sir Drefaldwyn.  Mae’r rhifau wedi mynd i lawr llawer o’r hyn oeddent, ac mae’r grŵp yn ceisio ail sefydlu adar ble maent yn brin.

Fe sefydlwyd y grŵp dros ugain mlynedd yn ôl, a dim ond dau bar a fagodd yn 1990.  Mae’r rhifau wedi cynyddu yn raddol a chafwyd uchafbwynt yn 2005 pan lwyddodd 73 o barau i fagu 249 o gywion.

Bu cwymp yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac yn 2011 roedd 23 o barau wedi magu 71 o gywion.  Roedd gaeaf caled 2010-2011 wedi lladd llawer o’r tylluanod gwyn.

Rydym wedi darparu dros 300 o safleoedd magu dros y blynyddoedd – bocsiau mewn adeiladau a rhai siap A ar goed.

Hoffem wybod am unrhyw dylluanod gwyn sy’n cael eu gweld yn y sir ac mae croeso i aelodau newydd i ymuno gyda’r grŵp.  Darllenwch weddill y wefan hon i gael mwy o wybodaeth.

Gobeithio y gallwn weithio gyda’n gilydd, i sicrhau fod y tylluanod gwyn – rhai o’r adar mwyaf prydferth yn parhau i fagu yn y sir hon am amser maith.